Ymateb E.ON i’r ymchwiliad i gartrefi gwag

 

         Mae E.ON yn un o gwmnïau pŵer a nwy mwyaf blaenllaw'r DU ac mae’n rhan o grŵp E.ON, un o gwmnïau pŵer a nwy mwyaf y byd sy’n eiddo i fuddsoddwyr.

 

         Rydym ni wedi’n hymrwymo i helpu pobl i reoli eu defnydd o ynni a chyflenwi ynni fforddiadwy iddynt mewn modd cynaliadwy. Mae angen polisïau eglur, uchelgeisiol a chydlynedig i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a defnyddio ynni’n effeithlon yn llwyddiannus; rydym ni’n credu bod gan gartrefi gwag gyfraniad i’w wneud at yr ateb tymor hir a chynaliadwy i dlodi tanwydd a digartrefedd.

 

         Cafodd rhaglen Cartrefi Gwag E.ON ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl, a chaiff y rhaglen ei harwain gan ein tîm Atebion Tai mewnol. Mae E.ON yn cydweithio ag awdurdodau lleol i nodi perchnogion cartrefi gwag a chynnig gwasanaeth un ac wrth i gynorthwyo perchennog y tŷ i ailgychwyn defnyddio’r eiddo. Y nod yw cynnig ateb syml i’r cwsmer, yr awdurdod lleol a pherchennog y cartref gwag.

 

Cwestiwn 1

A yw digon yn cael ei wneud i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag yng Nghymru? Os nad yw, beth sydd angen ei newid?

 

1.      Ar sail ein profiad ni, rydym ni’n credu mai cyfuno’r arferion gorau a ddefnyddir mewn modelau y profwyd eu bod yn llwyddo ledled y DU â gwasanaethau a gaiff eu llunio ar y cyd â pherchnogion tai sydd â’r tebygolrwydd pennaf o sicrhau yr ailgychwynnir defnyddio niferoedd mawr o dai gwag a lleihau effaith tai gwag ar gymunedau lleol.

 

2.      Mae gwella ymwybyddiaeth o’r materion a wynebir gan bob rhanddeiliaid a’r cymorth sydd

ar gael i berchnogion cartrefi gwag yn hollbwysig. Fel y dengys ystadegau diweddaraf

Llywodraeth Cymru, mae gan bob un o’r 22 Cyngor nifer sylweddol o gartrefi gwag tymor hir1. Er ein bod ni’n cefnogi mentrau lleol i fynd i’r afael â phroblemau penodol, rydym ni’n credu y byddai datblygu dull canoledig a chydlynedig i helpu i nodi a mynd i’r afael â

chartrefi gwag yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd sylweddol. Yn ogystal â chynyddu’r adnoddau mewnol sydd ar gael i awdurdodau lleol, byddai hyn hefyd yn cynyddu buddsoddiad gan y sector preifat trwy wella arbedion maint ar gyfer yr ymyriadau sy’n ofynnol i gychwyn defnyddio cartrefi gwag unwaith yn rhagor.

 

3.       Mae E.ON felly yn credu y byddai Canolfan Ragoriaeth ynghylch Cartrefi Gwag yng Nghymru, yn cynnwys nifer o sefydliadau gwahanol, yn gallu cydlynu’r ymdrech a’r adnoddau sy’n ofynnol i sicrhau y byddir yn cychwyn defnyddio nifer fawr o gartrefi gwag unwaith yn rhagor. Byddai’n gyfrifol am greu gwasanaethau a chynigion y gallai holl berchnogion cartrefi gwag a phob awdurdod lleol ledled Cymru yn gallu gwneud defnydd ohonynt. Gellid

ariannu’r Ganolfan Ragoriaeth trwy gyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru, premiwm y Dreth Gyngor, cronfeydd Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO) a chronfeydd cyllid Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol gan y busnesau a fyddai’n elwa’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o’r gwaith y byddid yn ei wneud. Byddai’n galluogi i ateb cynaliadwy a thymor hir gael ei lansio yng Nghymru, sy’n parhau i roi’r cyfrifoldeb ar berchnogion eiddo gwag, ac ar yr un pryd, yn eu galluogi i gychwyn defnyddio eu heiddo unwaith yn rhagor; un enghraifft o gynllun llwyddiannus tebyg yn Lloegr yw’r cynllun No Use Empty2 yng Nghaint.

 

1      https://gov.wales/docs/statistics/2019/190117-council-tax-dwellings-2019-20-en.pdf


 

4.       Hyd yn hyn, mae 50% o Gynghorau Sir Cymru wedi cyflwyno'r premiwm tai gwag3, a byddai sicrhau bod y premiwm yn orfodol ar draws bob Cyngor yn cynyddu’r cyllid sydd ar gael yn sylweddol. Mae’n hanfodol sefydlu deddfwriaeth berthnasol i sicrhau y caiff yr holl arian a godir gan y premiwm ei ail-fuddsoddi yn y gwaith o fynd i’r afael â’r broblem o gartrefi gwag.

 

5.       Mae ein profiad ni yn dangos bod yr anawsterau a wynebir gan berchnogion cartrefi gwag yn amrywiol ac yn aml yn gymhleth. Mewn rhai achosion, bydd cymorth ariannol trwy gyfrwng premiwm cartrefi gwag neu gyllid arall megis ECO yn ddigon o gymhelliant i sicrhau bod perchennog yr eiddo gwag yn gweithredu. Mewn achosion eraill, megis perchnogion

cartrefi gwag sydd â phroblemau iechyd meddwl, gall y rhwystrau sy’n atal gweithredu fod yn anoddach eu goresgyn. Mae angen i gynghorau ganolbwyntio ar sicrhau eu bod yn cynnig y gwasanaethau priodol i helpu perchnogion tai sy’n agored i niwed i ailgychwyn defnyddio eu heiddo trwy gynnig anogaeth, cyngor a chymorth. Unwaith yn rhagor, byddai rhagor o ddeddfwriaeth a chanllawiau mwy caeth i osgoi canlyniadau anfwriadol y premiwm treth gyngor yn rhywbeth y byddid yn ei groesawu.

 

6.       Yn ôl y dystiolaeth lafar rydym ni wedi’i chael gan Swyddogion Cartrefi Gwag, pan gaiff premiwm ei gyflwyno heb wasanaethau cymorth, byddant yn gweld gostyngiad yn y lle cyntaf yn nifer y cartrefi gwag, ond ni chaiff y gostyngiad hwn ei gynnal, felly nid yw’r premiwm ynddo’i hun yn ateb yn y tymor hir.

 

Cwestiwn 2

Pa effaith y gall eiddo gwag ei chael ar gymuned?

 

7.     Gall eiddo gwag effeithio’n negyddol ar gymunedau, gan ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol, fandaliaeth, llosgi bwriadol, tipio anghyfreithlon a sgwatio mewn rhai achosion.Maent yn effeithioar olwg a theimlad y gymuned gyfan,gan arwain at ostyngiad yng ngwerth eiddo cyfagos a chymunedau yn teimlo’n llai diogel. Dylai effaith ehangach cartrefi gwag gael ei hystyried ynghyd â llesiant y gymuned.

 

8.  Cychwynnodd diddordeb E.ON mewn cartrefigwag yn ystod ein gwaithyn ymwneud â chynllun defnyddio ynni yn effeithlon yn Nottingham. Fe wnaeth E.ON osod mesurau defnyddio ynni yn effeithlon mewn dros 600 eiddo mewn un ystâd dai, ond yn anffodus, roedd 3 chartrefoedd wedi bod yn wag ers talwmn nad oeddem ni’n gallu eu trin. Gallai’r awdurdod lleol, preswylwyr eraill a thîm defnyddio ynni yn effeithlon E.ON oll weld y byddaisicrhau bod y cartrefi hyn yn defnyddio ynni yn effeithlon a’u bod yn gyfanheddol yn fuddiol iawn i’r gymuned, ond heb gyfranogiad y perchnogion, nid oeddem ni’n gallu gweithredu.

 

9.  Mae Action on Empty Homes yn sefydliad yn y Deyrnas Unedig sydd â blynyddoedd o brofiad o ymchwilio a lobïo yn y sectortai gwag, ac yn ôl y sefydliad, gall ‘ardaloedd sydd â chrynodiadau

o gartrefi gwag faglu awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill mewn trobwll o wario ymatebol a chloi cymunedau mewn trobwll o ddirywiad’. Maent yn nodi y bydd ‘gwariant ymatebol yn digwydd pan fydd awdurdodau lleol yn gweithredu i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a niwsans statudol, bydd gwasanaethau’r Heddlu yn ymateb i fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) a chamddefnyddio sylweddau, bydd Gwasanaethau Tân yn ymateb i losgi anghyfreithlon a bydd Gwasanaethau Iechyd yn rheoli ac yn trin anhwylderau iechyd corfforol a meddyliol. Dylanwadhyn yw’r ffaithbod effeithiau – costau a risgiau – tai sy’n parhau yn wag yn cael eu hysgwyddo yn bennaf gan bobl leol a gwasanaethau cyhoeddus lleol’4.

 

2  https://www.no-use-empty.org.uk/

3  https://gov.wales/docs/statistics/2019/190117-council-tax-dwellings-2019-20-en.pdf


 

Cwestiwn 3

 

Pa mor effeithiol mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r offer statudol ac anstatudol sydd ar gael

iddynt i fynd i’r afael ag eiddo gwag?

 

10.   Rydym ni'n credu bod eraill mewn sefyllfa well i gynnig sylwadau ynghylch effeithlonrwydd presennol awdurdodau lleol unigol a’u hymagwedd at gartrefi gwag. Ar y lefel

genedlaethol, rydym ni’n credu y dylai’r broblem o gartrefi sydd wedi bod yn wag dros y tymor hir gael ei thargedu gan ddefnyddio pedwar dull i sicrhau bod y gwasanaethau cymorth priodol yn cael eu defnyddio’n effeithiol:

 

(a)    Eiddo sydd wedi bod yn wag dros y tymor hir (yn wag ers dros 6 mis) – Mae anogaeth, cyngor, cymorth a chymhellion yn allweddol er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o eiddo sydd wedi bod yn wag dros y tymor hir. Rydym ni’n awgrymu y byddai defnyddio ymagwedd gwaith achos sy’n cynnig ymgynghoriadau wyneb yn wyneb a dros y ffôn ar gyfer perchnogion tai gwag yn sicrhau’r canlyniadau mwyaf. Yn ogystal â hyn, dylid

defnyddio camau gweithredu trwy gyfrwng Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag (EDMOs) a Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPOs) os bydd dulliau ysgafnach yn aneffeithiol.

 

(b)    Eiddo sy’n wag ers rhwng 0-6 mis – Gall gwasanaethau sy’n lleihau nifer y cartrefi sy’n parhau’n wag dros y tymor hir megis cymorth i gynnal a chadw eiddo, ailwampio a gwelliannau er mwyn defnyddio ynni yn fwy effeithlon helpu i sicrhau bod eiddo yn addas at y dyfodol i’w hatal rhag mynd â’u pen iddo.

 

(c)     Atal Cartrefi rhag Dod yn Wag - Rydym ni’n credu bod buddsoddi mewn atal cartrefi rhag dod yn wag yn fwy cost effeithiol na sicrhau y byddir yn ailgychwyn defnyddio cartrefi gwag, ac fe wnaiff hynny sicrhau buddion ehangach i’r awdurdod lleol, tenantiaid, landlordiaid a’r gymuned gyfan. Bydd nodi dulliau o gynorthwyo perchnogion cartrefi neu denantiaid i gynnal a chadw eu cartref a chael cymorth personol i fyw yn ddiogel ac yn gyfforddus yn y cartref yn lleihau nifer y cartrefi sy’n mynd â’u pen iddo ac yn dod yn wag.

 

Mae Cyngor Gogledd Swydd Derby yn rhedeg rhaglen sy’n cynorthwyo landlordiaid sy’n ystyried troi allan eu tenant. Mae’r rhaglen ‘Call Before You Serve’ yn darparu gwasanaethau ymyrryd a chyfryngu ar gyfer landlordiaid a mwy o wasanaethau cymorth i denantiaid. Mae gwasanaethau cymorth i denantiaid yn cynnwys amrywiaeth o ymyriadau sy’n gysylltiedig ag uchafu’r tebygolrwydd y gwnânt lwyddo i gynnal eu tenantiaeth - gwirio bod tenantiaid yn hawlio’r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w cael, cyngor ynghylch dyledion a chyllidebau, ymweliadau gan weithwyr achos, addysg a chysylltiadau â grwpiau cymunedol a grwpiau cymdeithasol. Gall ymyriadau llwyddiannus ar yr adeg hon arbed costau darparu llety brys a dros dro a lleihau aflonyddwch ar gyfer y landlord a’r tenant, a

lleddfu profiad blin a chostus i bawb sy’n gysylltiedig â’r mater.

 

 

 

 

 

4     https://www.actiononemptyhomes.org/Handlers/Download.ashx?IDMF=ee3e040f-2cbf-461a-b680- 4024d2193df6


 

 

(d)    Targedu ardaloedd sydd â chrynodiad sylweddol o gartrefi gwag - Ar y cyfan, mae ardaloedd sydd â niferoedd sylweddol o gartrefi gwag hefyd yn ardaloedd sydd o fewn 25% isaf y Mynegai Amddifadedd Lluosog. Bydd gan yr ardaloedd hyn niferoedd sylweddol hefyd o bobl sy’n rhentu gan landlordiaid preifat a throsiant sylweddol o ran tenantiaethau.

Rydym ni’n cymeradwyo’n llawn y dull a ddefnyddir gan Action on Empty Homes oherwydd mae’n ddull tymor hir a chynaliadwy o sbarduno adfywiad ardaloedd5.

 

Cwestiwn 4

 

A oes angen pwerau statudol ychwanegol ar awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phroblem eiddo

gwag? Os oes, pa bwerau sydd eu hangen arnynt?

 

11.   Fel y nodir yn ein hymateb i gwestiwn un, credwn y dylai bob awdurdod lleol gyflwyno’r premiwm cartrefi gwag, a dylid cefnogi hyn â deddfwriaeth sy’n sicrhau bod arian sy’n cael ei godi gan y premiwm yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag. Byddai ffrwd incwm sicr i fynd i’r afael â’r broblem o gartrefi gwag ar draws holl awdurdodau lleol Cymru yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth orfodol sy’n gorfodi

perchnogion cartrefi gwag i weithredu mewn perthynas â’u heiddo.

 

12.   Yn ogystal â phwerau awdurdodau lleol, rydym ni’n credu y gallai newid bychan i reoliadau ECO ynghylch rheolau deiliadaeth sicrhau bod cyllid i ariannu gwaith i ddefnyddio ynni yn effeithlon ar gael i berchnogion cartrefi gwag tra byddai gwaith adnewyddu safonol yn cael ei wneud i’r eiddo. Yn ôl y rheoliadau presennol, mae’n rhaid i dystiolaeth fod ar gael sy’n profi bob rhywun yn trigo yn yr eiddo cyn i waith gael ei wneud, ac ar hyn o bryd, mae hyn yn atal perchnogion cartrefi gwag rhag cael cyllid ECO.

 

Cwestiwn 5

 

A yw perchnogion eiddo gwag yn cael y cymorth, y wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i

ddod â thai yn ôl i feddiannaeth? Os nad ydynt, pa gymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt?

 

13.   Yn ôl ein profiad ni, y dull mwyaf effeithiol o fynd i’r afael â’r broblem o dai sydd wedi bod yn wag dros y tymor hir yw annog perchnogion cartrefi gwag i ailgychwyn defnyddio eu heiddo trwy gynnig cyngor, arweiniad a mynediad rhwydd at gadwyni cyflenwi ac atebion cyllido dibynadwy.

 

 

Cwestiwn 6

 

A oes digon o ymwybyddiaeth o’r cymorth ymarferol y gall awdurdodau lleol ei gynnig i berchnogion eiddo gwag? Os nad oes, sut y gellid gwella hyn?

 

14.    Rydym ni’n credu bod eraill mewn sefyllfa well i gynnig sylwadau ynghylch effeithiolrwydd presennol yr awdurdodau unigol. Fodd bynnag, byddai sefydlu Canolfan Ragoriaeth ynghylch Cartrefi Gwag yng Nghymru yn galluogi adnoddau i gael eu rhannu a helpu i sicrhau ymwybyddiaeth genedlaethol o’r problemau a’r cymorth sydd ar gael.

 

 

 

 

 

5 https://www.actiononemptyhomes.org/Handlers/Download.ashx?IDMF=ee3e040f-2cbf-461a-b680-4024d2193df6


 

 

Cwestiwn 7

 

A yw sgiliau ac adnoddau cymdeithasau tai a’r sector preifat yn cael eu defnyddio’n llawn i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag?

 

15.   Rydym ni’n credu bod y sgiliau sy’n ofynnol, ar draws llawer o sectorau, ar gael i fynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag. Yn ôl ein profiad ni ym maes cartrefi gwag a datblygiadau eraill megis ECO, nid oes gan lawer o awdurdodau lleol ddigon o’r arian sy’n ofynnol i sefydlu prosiectau ynghylch cartrefi gwag neu nid ydynt yn gallu denu digon o gyllid o’r sectorpreifat.

 

 

Cwestiwn 8

 

A oes digon yn cael ei wneud i sicrhau y gall eiddo gwag gael eu defnyddio unwaith eto fel cartrefi fforddiadwy? A oes enghreifftiau da yn hyn o beth?

 

16.               Rydym ni’n credu bod rhywfaint o enghreifftiau o arferion da ar gael. Mae Action on Empty Homes yn cynnwys prosiectau arddangos yn eu hadroddiad diweddar ynghylch defnyddio tai gwag i adfywio cymunedau6, ac mae nifer o’r prosiectau hyn wedi sicrhau bod tai fforddiadwy ychwanegol ar gael. I ryw raddau, bydd y potensial i ailgychwyn defnyddio cartrefi gwag fel cartrefi fforddiadwy yn dibynnu ar faint o fuddsoddiad sy’n ofynnol fesul eiddo a chyfradd y farchnad am renti mewn ardal benodol. Rydym ni felly yn credu y gellir ychwanegu at arferion da sydd eisoes yn bodoli yn y maes hwn, ond bydd angen rhagor o adnoddau a chymorthdaliadau i uchafu’r potensial o gychwyn defnyddio cartrefi gwag unwaith yn rhagor fel tai fforddiadwy.

 

 

Cwestiwn 9

 

A yw’r pŵer i godi premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor yn offeryn defnyddiol, ac a yw’n cael ei ddefnyddio’n effeithiol? Os nad yw, sut y gellid gwneud yr offeryn hwn yn fwy effeithiol?

 

17.  Gweler cwestiwn 1.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6 https://www.actiononemptyhomes.org/Handlers/Download.ashx?IDMF=ee3e040f-2cbf-461a-b680-4024d2193df6